Jeremiah 39

Byddin Babilon yn concro Jerwsalem

1Dyma Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn dod â'i fyddin gyfan i ymosod ar Jerwsalem a gwarchae arni. Digwyddodd hyn yn y degfed mis
39:1 y degfed mis Tebeth, sef degfed mis y calendr Hebreig, o tua canol Rhagfyr i ganol Ionawr.
o nawfed flwyddyn Sedeceia yn frenin ar Jwda.
2Buon nhw'n gwarchae arni am flwyddyn a hanner.

Yna ar y nawfed diwrnod o'r pedwerydd mis
39:2 pedwerydd mis Tamus, sef pedwerydd mis y calendr Hebreig, o tua canol Mehefin i ganol Gorffennaf.
ym mlwyddyn un deg un o deyrnasiad Sedeceia
39:2 sef 587 CC
dyma nhw'n torri trwy waliau'r ddinas.
3Dyma swyddogion brenin Babilon yn dod ac yn eistedd wrth y Giât Ganol – Nergal-sharetser o Samgar, Nebo-sarsechîm (prif swyddog y llys), Nergal-sharetser (oedd yn uchel-swyddog), a'r swyddogion eraill i gyd. 4Roedd y Brenin Sedeceia a'i filwyr wedi dianc. Roedden nhw wedi gadael y ddinas yn ystod y nos, drwy ardd y brenin ac yna allan drwy'r giât sydd rhwng y ddwy wal. Wedyn mynd i gyfeiriad Dyffryn Iorddonen
39:4 Dyffryn Iorddonen Hebraeg, “Araba”.
.
5Ond aeth byddin Babilon ar eu holau a dal Sedeceia ar wastatir Jericho. Dyma nhw'n mynd ag e i sefyll ei brawf o flaen Nebwchadnesar, brenin Babilon, yn Ribla yn ardal Chamath.
39:5 Roedd Ribla i'r gogledd o Israel, ar yr Afon Orontes yn Syria.

6Cafodd Sedeceia ei orfodi i edrych ar ei feibion yn cael eu lladd gan frenin Babilon. A cafodd pobl bwysig Jwda i gyd eu lladd ganddo hefyd. 7Wedyn dyma fe'n tynnu llygaid Sedeceia allan a'i roi mewn cadwyni pres cyn mynd ag e'n gaeth i Babilon. 8Dyma'r Babiloniaid yn llosgi'r palas brenhinol a thai y bobl a bwrw waliau Jerwsalem i lawr. 9Wedyn dyma Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol, yn mynd â'r bobl oedd ar ôl yn y ddinas yn gaeth i Babilon – gan gynnwys y bobl oedd wedi dianc ato o Jerwsalem yn gynharach. 10Yr unig bobl gafodd eu gadael ganddo yn Jwda oedd rhai o'r bobl gyffredin dlawd oedd heb eiddo o gwbl. Rhoddodd gaeau a gwinllannoedd iddyn nhw i ofalu amdanyn nhw.

Jeremeia yn cael ei ollwng yn rhydd

11Roedd Nebwchadnesar, brenin Babilon, wedi rhoi gorchymyn i Nebwsaradan, capten y gwarchodlu brenhinol, am Jeremeia. 12“Ffeindia Jeremeia, a gofalu amdano. Paid gwneud dim drwg iddo. Gwna beth mae e'n ei ofyn i ti.” 13Felly dyma Nebwsaradan (capten y gwarchodlu brenhinol), Nebwshasban (prif swyddog y llys), Nergal-sharetser (oedd yn uchel-swyddog), a swyddogion eraill brenin Babilon 14yn anfon am Jeremeia a'i gymryd o iard y gwarchodlu. Yna dyma nhw'n cael Gedaleia (mab Achicam ac ŵyr i Shaffan) i ofalu amdano a'i gymryd i'w dŷ. Ond dewisodd Jeremeia aros gyda'r bobl gyffredin.

Addewid Duw i Ebed-melech

15Roedd yr Arglwydd wedi rhoi neges i Jeremeia pan oedd yn y ddalfa yn iard y gwarchodlu: 16“Dos i ddweud wrth Ebed-melech yr Affricanwr
39:16 Affricanwr Hebraeg,  Cwsh. Yr ardal i'r de o wlad yr Aifft, sef Gogledd Swdan heddiw.
: Dyma mae'r Arglwydd holl-bwerus, Duw Israel, yn ei ddweud: ‘Dw i'n mynd i wneud beth ddywedais i i'r ddinas yma – gwneud drwg iddi yn lle gwneud da. A byddi di yma i weld y cwbl yn digwydd.
17Ond bydda i'n dy arbed di pan fydd y peth yn digwydd,’ meddai'r Arglwydd. ‘Fyddi di ddim yn cael dy ddal gan y bobl rwyt ti'n eu hofni. 18Bydda i'n dy achub di. Gei di ddim dy ladd yn y rhyfel. Byddi di'n cael byw, am dy fod ti wedi trystio yno i.’” Yr Arglwydd sy'n dweud hyn.

Copyright information for CYM